Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a

fideogynadledda drwy Zoom  

Dyddiad: Dydd Llun, 14 Tachwedd 2022

Amser: 13.01 - 15.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13037


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

Alun Davies AS

James Evans AS

Tystion:

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Gwilym Hughes, Cadw

Dr James George, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

</AI2>

<AI3>

3       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

</AI3>

<AI4>

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

</AI4>

<AI5>

3.1   SL(6)273 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2022

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI5>

<AI6>

4       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

</AI6>

<AI7>

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

</AI7>

<AI8>

4.1   SL(6)274 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI8>

<AI9>

5       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

</AI9>

<AI10>

5.1   SL(6)272 – Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI10>

<AI11>

5.2   SL(6)276 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022

Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i nododd ef.

</AI11>

<AI12>

6       Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

</AI12>

<AI13>

6.1   SICM(6)1 - Gorchymyn Newid Hinsawdd (Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Targedu) 2022

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

</AI13>

<AI14>

7       Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI14>

<AI15>

7.1   WS-30C(6)018 - Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd (Ymadael â'r UE) 2022

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

</AI15>

<AI16>

7.2   WS-30C(6)019 - Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygio) 2022

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

</AI16>

<AI17>

8       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI17>

<AI18>

8.1   Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cyflyrau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif 3) 2022

Nododd y Pwyllgor y llythyr a’r datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog.

</AI18>

<AI19>

8.2   Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Cyfarfod Gweinidogol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

</AI19>

<AI20>

8.3   Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydain-Iwerddon

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

</AI20>

<AI21>

8.4   Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

</AI21>

<AI22>

8.5   Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Grwp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

</AI22>

<AI23>

9       Papurau i’w nodi

</AI23>

<AI24>

9.1   Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dyfodol Cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026: Adroddiad Blynyddol 2021-22

Nododd y Pwyllgor y llythyr, yr adroddiad a’r datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

</AI24>

<AI25>

9.2   Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i ymateb.

</AI25>

<AI26>

9.3   Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i ymateb.

</AI26>

<AI27>

9.4   Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes:  Adroddiad Blynyddol 2021/22

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes.

</AI27>

<AI28>

9.5   Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a'r Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru: Gwaith dilynol i’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2022

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Ysgrifennydd Parhaol.

</AI28>

<AI29>

9.6   Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

</AI29>

<AI30>

9.7   Gohebiaeth gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

</AI30>

<AI31>

10    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniwyd y cynnig.

</AI31>

<AI32>

11    Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunwyd ar y dull ar gyfer ystyried ei adroddiad drafft.

</AI32>

<AI33>

12    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diogelwch Ar-lein

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r eitem tan ei gyfarfod nesaf ar 21 Tachwedd 2022.

</AI33>

<AI34>

13    Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio): Adroddiad drafft

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r eitem tan ei gyfarfod nesaf ar 21 Tachwedd 2022.

</AI34>

<AI35>

14    Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd arno.

</AI35>

<AI36>

15    Adroddiad monitro

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro.

</AI36>

<AI37>

16    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Trafododd y Pwyllgor friff ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil.

</AI37>

<AI38>

17    Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin:  Craffu ar Gytuniadau Rhyngwladol a chytundebau rhyngwladol eraill yn y 21ain ganrif

Nododd y Pwyllgor ei ymateb drafft.

</AI38>

<AI39>

18    Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'w hadroddiad ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog ac at y Pwyllgor Busnes.

</AI39>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>